Deuteronomy 10

Yr Arglwydd yn rhoi'r Deg Gorchymyn

(Exodus 34:1-10)

1“Dyna pryd y dwedodd yr Arglwydd wrtho i, ‘Cerfia ddwy lechen garreg, fel y rhai cyntaf, a hefyd gwna gist o bren, yna tyrd i fyny'r mynydd ata i. 2Gwna i ysgrifennu ar y ddwy lechen yr union eiriau oedd ar y llechi cyntaf, y rhai wnest ti eu torri. Yna rhaid i ti eu rhoi nhw yn y gist.’

3“Felly dyma fi'n gwneud cist o goed acasia, a cherfio dwy lechen garreg oedd yr un fath â'r rhai cyntaf. Wedyn dyma fi'n mynd i fyny'r mynydd yn cario'r ddwy lechen. 4A dyma'r Arglwydd yn ysgrifennu'r un geiriau ac o'r blaen ar y ddwy lechen, sef y Deg Gorchymyn. (Sef beth roedd e wedi ei ddweud wrthoch chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd.) Yna dyma fe'n eu rhoi nhw i mi, 5a dyma fi'n mynd yn ôl i lawr o'r mynydd, a'u rhoi nhw yn y gist roeddwn i wedi ei gwneud. Maen nhw'n dal tu mewn i'r gist hyd heddiw. Dyna roedd yr Arglwydd wedi ei orchymyn.

6“(Teithiodd pobl Israel o ffynhonnau Bene-iacân i Mosera. Dyna pryd fuodd Aaron farw, a chael ei gladdu, a dyma'i fab Eleasar yn dod yn offeiriad yn ei le. 7Wedyn dyma nhw'n mynd ymlaen i Gwdgoda, ac yna i Iotbatha, lle roedd lot fawr o nentydd. 8A dyna pryd wnaeth yr Arglwydd ddewis llwyth Lefi i gario Arch ymrwymiad yr Arglwydd, ac i'w wasanaethu fel offeiriaid a bendithio'r bobl ar ei ran. Ac maen nhw'n dal i wneud hynny hyd heddiw. 9A dyna pam nad oes gan lwyth Lefi dir, fel y llwythau eraill. Yr Arglwydd ei hun ydy eu siâr nhw, fel roedd yr Arglwydd wedi addo i Lefi.)

Yr Arglwydd yn ateb gweddi Moses

10“Dyma fi'n aros ar y mynydd fel y gwnes i y tro cyntaf, ddydd a nos am bedwar deg diwrnod. A dyma'r Arglwydd yn gwrando arno i eto, a penderfynu peidio'ch dinistrio chi. 11Dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dos, ac arwain y bobl yma i gymryd y tir wnes i ei addo i'w hynafiaid.’

Beth mae'r Arglwydd eisiau

12“Nawr, bobl Israel, beth mae'r Arglwydd eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, 13a chadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi. 14Yr Arglwydd sydd piau popeth sy'n bodoli – y ddaear a'r cwbl sydd arni, a'r awyr, a hyd yn oed y nefoedd uchod. 15Ac eto, eich hynafiaid chi wnaeth e eu caru, a chi, eu disgynyddion, wnaeth e eu dewis. 16Felly newidiwch eich agwedd
10:16 newidiwch eich agwedd Hebraeg, “enwaedu blaengroen eich calon”.
, a peidio bod mor benstiff!
17Mae'r Arglwydd eich Duw yn fwy pwerus na'r duwiau eraill i gyd, ac yn Feistr ar bob meistr arall. Fe ydy'r Duw mawr, cryf a rhyfeddol, sy'n ddiduedd, a byth yn derbyn breib. 18Mae e'n gwneud yn siŵr fod plant amddifad a gweddwon yn cael cyfiawnder, ac mae e'n caru'r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw. 19Felly dylech chithau hefyd ddangos cariad at fewnfudwyr, achos pobl o'r tu allan oeddech chi yng ngwlad yr Aifft. 20Rhaid i chi barchu'r Arglwydd eich Duw, ei wasanaethu, aros yn ffyddlon iddo, a defnyddio ei enw e'n unig i dyngu llw. 21Fe ydy'r un i'w foli. Fe ydy'ch Duw chi, yr un dych chi wedi ei weld yn gwneud pethau rhyfeddol ar eich rhan chi. 22Pan aeth eich hynafiaid i lawr i'r Aifft, dim ond saith deg ohonyn nhw oedd yna, ond bellach mae cymaint ohonoch chi ac sydd o sêr yn y nefoedd!

Copyright information for CYM